Peilot 2026
Taro'r Targed
Cyfres gynhwysfawr o adnoddau Cymraeg wedi'u cynllunio i gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd drwy ddull graddol, ymarferol a gweledol.
Mae Taro’r Targed wedi’i gynllunio fel dull strategol o addysgu sgiliau iaith a llythrennedd ar gyfer dysgwyr rhwng 3 - 16 oed. Fe’i cynlluniwyd i gefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r pwyslais ar sicrhau bod y sgiliau’n cael eu cyflwyno’n systematig, cam wrth gam, er mwyn datblygu iaith a llythrennedd pob dysgwr yn llwyddiannus.
Mae’r Cynllun Peilot hwn yn cynnig detholiad o’r gweithgareddau y bwriedir eu creu ar gyfer y pecyn terfynol. Mae’r detholiad yn cynnwys sampl o’r gweithgareddau a fydd yn cael ei baratoi ar gyfer dysgwyr sy’n rhan o’r cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd (9-12 oed).
Mae’r gweithgareddau dechreuol hyn yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg Mamiaith, Cymraeg fel Iaith Ychwanegol a dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Adnoddau
Pam Taro'r Targed
Targed 1, 2 a 3
Adnoddau wedi'u graddio yn ôl lefel, o sgiliau sylfaenol i sgiliau uwch.
Cwricwlwm i Gymru
Yn cyd-fynd â Maes Dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Hyblyg ac Ymarferol
Adnoddau rhyngweithiol a thaflenni gwaith y gellir eu haddasu i unrhyw wers.
Annibynnol neu dan Arweiniad
Addas ar gyfer gwaith annibynnol neu addysgu dan arweiniad athro.

© 2026 Atebol. Cedwir pob hawl.